Amdonom Ni

"Arwain yn narpariaeth rhagoriaeth a gwella ar y disgwyliadau ym mhopeth a wnawn"

Mae Educ8 yn sefydliad hyfforddi llawn dyhead, unigryw a deinamig sydd â staff ymrwymedig ac ymroddedig, pob un yn frwdfrydig iawn ynglŷn â hyfforddi a datblygu eraill.

Mae Educ8 Training wedi dod yn brif ddarparwr hyfforddiant i´r sectorau Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Sefydlwyd y busnes yn 2004 gan esblygu fel is-gwmni CCA Residential Homes Ltd, sefydliad gofal preswyl mawr yn darparu cefnogaeth tra arbenigol i bobl gydag Anableddau Dysgu a/neu Anhwylder Sbectrwm Awtistig.

Mae Educ8, a adnabuwyd yn flaenorol fel ‘Phoenix Training’, erbyn hyn yn cyflogi 25 aelod staff ac yn gweithio gyda dros 100 o gyflogwyr drwy Gymru. Mae Educ8 wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel ac mae ganddo´r profiad a´r arbenigedd i addasu hyfforddiant i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.