Mae ymroddiad i ansawdd yn un o´r egwyddorion o dan ba rai y cafodd Educ8 ei ariannu. Ni fyddwn yn torri corneli a´n hunig ddiddordeb yw darparu rhagoriaeth. I´r perwyl hwnnw nod Educ8 yw ardystio cyflawniadau pobl ar ein cyrsiau yn hytrach na´r ffaith eu bod dim ond wedi eu mynychu.
Rydym yn falch iawn o ansawdd y dysgu yr ydym yn ei ddarparu. Ein Fframwaith Gwella Ansawdd yw´r ymbarél o dan ba un y caiff ein holl bolisïau, prosesau a dysgu eu monitro, eu gwerthuso a´u gwella´n barhaus.
Rydym am i´n holl ddysgwyr fwynhau eu profiad dysgu a chael y budd mwyaf o´r dysgu yr ydym yn ei ddarparu.
Rydym yn gwerthfawrogi adborth gan ein holl randdeiliaid, yn cynnwys dysgwyr, cyflogwyr a staff mewnol. Mae hyn yn hollbwysig ar gyfer gwelliant parhaus y busnes ac i sicrhau bod Educ8 yn rhoi gwerth am arian.
Os hoffech lenwi holiadur cyflogwr neu ddysgwr maent i´w cael o dan yr adran adborth ar ein allrwyd. Gallwch hefyd ddefnyddio´r fforwm ar yr allrwyd i drafod gyda dysgwyr a chyflogwyr eraill unrhyw newidiadau pellach y gallwn eu gwneud i´n cynorthwyo i ddarparu´n well ar eich cyfer.
Ym mis Mawrth 2004 bu Educ8 trwy arolwg dysgu seiliedig ar waith llwyddiannus a gynhaliwyd gan Arolygwyr Ei Mawrhydi, Estyn. Ar ôl hynny cyrhaeddodd Educ8 radd 2 am ansawdd y dysgu. Flwyddyn yn ddiweddarach sicrhaodd y busnes safon Buddsoddwyr Mewn Pobl (IIP).
Cliciwch ar y ddolen isod i weld yr adroddiad yn llawn: http://www.estyn.gov.uk/inspection_reports/Phoenix_Training.pdf