Archwiliadau Ansawdd Annibynnol

Mae archwiliadau ac arolygon ansawdd yn nodwedd reolaidd ym meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.

Mae adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGC) yn cydnabod y bu gwelliannau mewn safonau gofal yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae, fodd bynnag, yn cydnabod ‘bod gormod o achosion o hyd lle nad yw rhai o elfennau sylfaenol gofal a chymorth yn cael eu darparu’n gyson’. Mae´r adroddiad hefyd yn amlygu bod ´bwlch yn tyfu rhwng perfformwyr da a pherfformwyr gwael´.

Mae Educ8 wedi datblygu a meithrin rhwydwaith o unigolion a thimau arbenigol profiadol sydd ag arbenigedd mewn gwerthuso ac archwilio systemau a phrosesau ansawdd.

Gallwn gynnig i gwsmeriaid archwiliad ac asesiad ansawdd annibynnol o systemau, prosesau ac ansawdd y gofal gan arwain at ddatblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr.

Mae´r gwasanaeth hwn yn darparu cyngor a chyfarwyddyd ynglŷn â defnyddio technegau a phrosesau arfer gorau ac yn cynorthwyo sefydliadau yn eu hymdrech am welliant parhaus.