Mae Educ8 yn cydnabod nad yw ‘ymagwedd un ateb ar gyfer pawb” yn briodol ac yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o sefydliadau ac unigolion. Rhaid cydnabod anghenion penodol busnesau ac unigolion a datblygu’r rhain er mwyn i ddysgu fod yn effeithiol.
Beth bynnag fo anghenion datblygu y sefydliad neu’r unigolion, gallwn ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth pwrpasol i ddiwallu’r anghenion hynny.
Byddwn yn cynnal diagnostig busnes cychwynnol i ganfod gofynion penodol y busnes ac unigolion o fewn y busnes.
Mae ein tîm o arbenigwyr wrth law i ddarparu gwybodaeth arbenigol i gynorthwyo i ddatblygu cyrsiau a gwasanaethau ar gyfer eich anghenion.