Rhaglen beilot yw Darpariaeth Hyblyg sydd â´r nod o brofi effaith a gwerth ychwanegol cyflwyno hyfforddiant hyblyg gyda chymhorthdal rhannol ar gyfer oedolion mewn cyflogaeth.
Rhaid i´r dysgwr gwblhau cymwysterau cyfan e.e. NVQ, Sgiliau Allweddol a/neu Dystysgrif Dechnegol o fframwaith cydnabyddedig.
Gall dysgwr ddilyn un neu ragor o gymwysterau o fframwaith sy´n berthnasol ac yn addas i angen cyflogwr ("fframwaith rhannol"). Pa bynnag gymhwyster (gymwysterau) a ddewisir o´r fframwaith, rhoddir dewis i’r dysgwyr drwy gydol y cyfnod dysgu i gwblhau rhaglen fframwaith lawn os ydynt yn dymuno.
Disgwylir i gyflogwyr cyfrannu 50% o gyfanswm y gost gyda´r 50% sy´n weddill yn cael ei ariannu gan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS).
Mae´r rhaglen beilot hon ar gael i unigolion cyflogedig 19 oed a throsodd sy´n dechrau eu rhaglen hyfforddiant wedi mis Awst 2007. Rhaid i´r cymwysterau gale eu cwblhau a´u hardystio erbyn mis Gorffennaf 2010.
Mae´r dyfarniad hwn wedi ei anelu at bobl sy´n gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 0 ac 16 oed. Mae´r cymhwyster yn adlewyrchu´r grŵp amrywiol o bobl nad sy´n gweithio mewn un ystod oedran, ond sy´n symud rhwng lleoliadau gan ddarparu ar gyfer gwahanol anghenion. Mae´r unedau’n berthnasol i bobl sy´n gweithio mewn gofal dydd, crèches, lleoliadau cyn ysgol ac ysgolion, ysbytai, gofal sylfaenol a gwasanaethau yn y gymuned megis Rhaglenni Cychwyn Cadarn. Mae hefyd yn berthnasol i bobl sy´n gweithio fel gwarchodwyr plant.
Mae´n addas i bob gweithiwr, boed yn amser llawn neu´n rhan amser, yn daledig neu´n wirfoddol, parhaol neu dros dro, mewn swyddi dydd neu nos, mewn lleoliadau sefydlog neu deithiol a allai weithio mewn rolau cefnogi (mae arian ar gael i unigolion cyflogedig sy´n gweithio mwy nac 16 awr yr wythnos).
Wedi ei gynllunio ar gyfer pobl sy´n gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 0 ac 16 oed (a’u teuluoedd) mewn lleoliadau neu wasanaethau sydd â´u prif ddiben ym maes gofal, dysgu a datblygiad plant.
Mae´n addas i bob gweithiwr, boed yn amser llawn neu´n rhan amser, yn daledig neu´n wirfoddol, parhaol neu dros dro, mewn swyddi dydd neu nos, mewn lleoliadau sefydlog neu deithiol a allai weithio mewn rolau goruchwylio (mae arian ar gael i unigolion cyflogedig sy´n gweithio mwy nac 16 awr yr wythnos).
Mae´r cymhwyster hwn wedi ei gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal sy´n cefnogi ac yn cynorthwyo unigolion gyda´u gofal corfforol neu emosiynol, eu hanghenion byw bob dydd neu i gynnal eu hannibyniaeth, fel arfer yn gweithio dan oruchwyliaeth. Mae´r cymhwyster yn arbennig o berthnasol i Gynorthwywyr Gofal Cartref, Cynorthwywyr Cefnogi Cymunedol, Cynorthwywyr Gofal Iechyd, Cynorthwywyr Gwasanaethau Preswyl neu Ddydd.
Wedi ei gynllunio i fod yn berthnasol i unigolion sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol, yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol. Mae wedi ei gynllunio ar gyfer gweithwyr rhan amser neu llawn amser (er yr argymhellir isafswm o 16 awr yr wythnos), ar gytundeb parhaol neu dros dro yn ogystal â gweithwyr dydd neu nos. Mae’r cymhwyster hwn yn berthnasol i’r rhai hynny sy’n cefnogi oedolion o unrhyw oedran, mewn unrhyw leoliad. Oherwydd gofynion penodol yr uned graidd efallai na fydd gweithwyr cartref, gweithwyr gofal cartref/cymorth cartref yn addas ar y lefel yma o gymhwyster.
Bydd y dyfarniad yn arbennig o berthnasol i rolau (yn cynnwys uwch rolau) megis: