ADC&DF  Enw Cwmni
 

ADC&DF

Bwriad Educ8 yw i wella ei ddefnydd o egni, effaith amgylcheddol, ac i hybu cynaladwyedd gyda’r staff a dysgwyr. Bydd y tudalen `gwyrdd` yn dangos i chi sut mae Educ8 yn gwneud yr ymdrech i wneud y cwmni yn `fwy wyrdd` a sut mae nhw wedi gweithredu ADC&DF (Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang) a gwobr y ddraig werdd tu fewn i’r cwmni.

Prif amcanion Educ8 yw i:-

  • Sicrhau fod pob dysgwr ac aelod o staff, yn cynnwys contractwyr, yn cefnogi ein polisi amgylcheddol ac ADC&DF.
  • I ddefnyddio llai o ddefnyddiau anadnewyddadwy fel cwmni.
  • Hybu staff i rannu ceir pan fod hyn yn gyfleus.
  • Sicrhau fod materion amgylcheddol yn rhan o sefydliad staff newydd, cyfarfodydd ac hyfforddiant dysgwyr.
  • Deall, parchu a gwerthfawrogi amrywiaeth dynol.
  • Deall pwysigrwydd byw bywyd iachus.
  • Deall fod y penderfyniadau a dewisiadau rydym yn wneud pob. dydd yn gallu cael canlyniadau fel risgiau a rhwystrau.

Bwriad Educ8 yw i leihau ei ddefnydd o egni gan 10/20%. Rhoddir y canran o egni sydd yn cael ei arbed i prosiect Oxfam, megis y llifogydd yn Pakistan.

Amcan Educ8 yw i roi cyfraniad i elusen yn y gymuned leol. Un ffordd rydym yn gobeithio gwneud hyn yw trwy sefydlu safle ar y mewnrwyd o`r enw `edubay`. Ar `edubuy` gall staff brynu a gwerthu eu nwyddau a bydd canran o`r elw yn mynd i elsuen leol. Gweler y ddolen am fwy o fanylion. Bydd cytundeb yn cael ei wneud ar beth allech werthu ac am faint o arian ar dudalen mewnrwyd ar gyfer y staff.