Mae´r rhaglen hon yn addas i unigolion sy´n gyflogedig ac sy´n dymuno dilyn NVQ Lefel 2. Mae´r fframwaith prentisiaeth wedi ei gynllunio gan y Cyngor Sector Sgiliau (SSC) ac mae´n cynnwys; NVQ Lefel 2, Tystysgrif Dechnegol Lefel 2, Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwr (ERR) a Sgiliau Allweddol Lefel 1. Mae rhai fframweithiau hefyd yn gofyn am gymwysterau ychwanegol megis Cymorth Cyntaf Paediatrig ar gyfer Gofal Plant.
Mae Prentisiaethau Modern Sylfaenol yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr hen a newydd sy´n dymuno datblygu sgiliau newydd a chymryd cam tuag at ddatblygu eu gyrfa.