Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi mynegi ei hymrwymiad i´r agenda 14-19 drwy ddatgan targed o gael 95 y cant o bobl ifanc erbyn eu bod yn 25 oed i fod yn barod ar gyfer cyflogaeth tra medrus neu addysg bellach erbyn 2015.
Mae Educ8 ar hyn o bryd yn aelod o Rwydwaith 14-19 Caerffili a Rhwydwaith 14-19 Rhondda Cynon Taf ac mae wedi datblygu Llwybr Dysgu Ymsefydlu.
Nod yr ymsefydlu hwn yw rhoi i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 10 ac 11 gyflwyniad a blas ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant (Blynyddoedd Cynnar) gan roi egwyddorion sylfaenol y sector.
Rydym yn gweithio gyda´r Rhwydweithiau Ardal Lleol i ddatblygu llwybrau galwedigaethol a fydd yn ategu´r gwasanaethau presennol a ddarperir gan ysgolion uwchradd. Ein hathroniaeth yw peidio â disodli, ond ategu´r cyrsiau presennol a gwella´r rhain drwy brofiad a gwybodaeth dysgu seiliedig ar waith uniongyrchol.