Mae´r rhaglen Prentisiaeth Fodern hon yn addas ar gyfer unigolion cyflogedig sy´n dymuno dilyn NVQ L3. Fel gyda´r rhaglen FMA, mae´r fframwaith prentisiaeth yn cynnwys: NVQ L3, Tystysgrif Dechnegol L3, Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr (ERR) a Sgiliau Allweddol.
Mae´r fframwaith Prentisiaeth Fodern Gofal Plant hefyd yn gofyn am Gymorth Cyntaf Paediatrig.
Mae´r dyfarniad hwn wedi ei anelu at bobl sy´n gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 0 ac 16 oed. Mae´r cymhwyster yn adlewyrchu´r grŵp amrywiol o bobl nad sy´n gweithio mewn un ystod oedran, ond sy´n symud rhwng lleoliadau gan ddarparu ar gyfer gwahanol anghenion. Mae´r unedau’n berthnasol i bobl sy´n gweithio mewn gofal dydd, crèches, lleoliadau cyn ysgol ac ysgolion, ysbytai, gofal sylfaenol a gwasanaethau yn y gymuned megis Rhaglenni Cychwyn Cadarn. Mae hefyd yn berthnasol i bobl sy´n gweithio fel gwarchodwyr plant.
Mae´n addas i bob gweithiwr, boed yn amser llawn neu´n rhan amser, yn daledig neu´n wirfoddol, parhaol neu dros dro, mewn swyddi dydd neu nos, mewn lleoliadau sefydlog neu deithiol a allai weithio mewn rolau cefnogi (mae arian ar gael i unigolion cyflogedig sy´n gweithio mwy nac 16 awr yr wythnos).
Wedi ei gynllunio i fod yn berthnasol i unigolion sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol, yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol. Mae wedi ei gynllunio ar gyfer gweithwyr rhan amser neu llawn amser (er yr argymhellir isafswm o 16 awr yr wythnos), ar gytundeb parhaol neu dros dro yn ogystal â gweithwyr dydd neu nos. Mae’r cymhwyster hwn yn berthnasol i’r rhai hynny sy’n cefnogi oedolion o unrhyw oedran, mewn unrhyw leoliad. Oherwydd gofynion penodol yr uned graidd efallai na fydd gweithwyr cartref, gweithwyr gofal cartref/cymorth cartref yn addas ar y lefel yma o gymhwyster.
Bydd y dyfarniad yn arbennig o berthnasol i rolau (yn cynnwys uwch rolau) megis:
Mae Lefel 3 NVQ OCR mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid wedi ei anelu at ymgeiswyr a fydd yn darparu ac yn rheoli gwasanaeth ac a fydd yn atebol ym maes yr ymarfer. Bydd ymgeiswyr yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol neu ar eu pen eu hunain, megis mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid masnachol.
Mae´n addas ar gyfer ymgeiswyr: