Anelir y rhaglen Diploma Sgiliau Modern at unigolion cyflogedig mewn rôl rheoli neu sydd â chyfrifoldebau rheoli. Ar hyn o bryd nid oes fframwaith ar gyfer cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Cyngor a Chyfarwyddyd. Anogir dysgwyr felly i gwblhau Sgiliau Allweddol a Thystysgrif Dechnegol fel rhan o´r rhaglen.
Mae’r cymhwyster yn ymwneud â rheoli a darparu gofal corfforol, emosiynol neu ofal galluogi i gleientiaid/defnyddwyr gwasanaeth. Bydd yr ymgeisydd yn rheoli a darparu gofal i gefnogi eraill, a bydd yn atebol ym maes yr ymarfer. Mae’r cymhwyster yn cwmpasu dyletswyddau rheoli yn ogystal ag asesiad o ofal unigol, a chynllunio ac adolygu rhaglenni gofal. Ar y lefel hon mae gan y gweithwyr gyfrifoldeb rheoli neu oruchwylio dros staff eraill neu lefel uchel o annibyniaeth mewn datblygu ymatebion unigol i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
Bydd ymgeiswyr yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol neu ar eu pen eu hunain, megis yng nghartrefi cleientiaid/defnyddwyr gwasanaeth. Bydd gan ymgeiswyr ymreolaeth, a bydd gofyn iddynt wneud penderfyniadau o fewn ffiniau a therfynau a gytunir gyda’u tîm.
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau wyth uned.
Bydd yr NVQ hwn yn caniatáu ar gyfer datblygu i ac oddi wrth bortffolio presennol cymwysterau Gofal Iechyd a Cymdeithasol a bydd yn ategu cymwysterau galwedigaethol eraill.
Mae’r NVQ hwn ar gyfer pobl sy´n gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 0 ac 16 oed (a’u teuluoedd) mewn lleoliadau neu wasanaethau sydd â´u prif ddiben ym maes gofal, dysgu a datblygiad plant. Mae wedi ei gynllunio ar gyfer bob gweithiwr, boed yn amser llawn neu´n rhan amser, yn daledig neu´n wirfoddol, parhaol neu dros dro, mewn swyddi dydd neu nos, mewn lleoliadau sefydlog neu deithiol a allai fod yn gweithio mewn rôl rheoli.
Ar lefel 4 mae angen i ddysgwyr ddangos y gallu i ddatblygu ymagwedd gadarn tuag at gaffael sail wybodaeth eang; gwerthuso gwybodaeth gan ei defnyddio i gynllunio a datblygu strategaethau ymchwiliol ac i gael atebion i amrywiaeth o broblemau anrhagweladwy.
Mae cymwysterau Lefel 4 yn cydnabod dysgu arbenigol ac yn cynnwys dadansoddiad manwl o lefel uchel o wybodaeth a hysbysrwydd mewn maes gwaith neu astudiaeth.
Strwythur Cymhwyster
Mae´r cymhwyster lefel 4 hwn yn cynnwys pedair uned orfodol a chyfanswm o bum uned ddewisol. Er mwyn cyflawni’r NVQ llawn ar lefel 4 rhaid i´r ymgeiswyr wneud y pedair uned orfodol a hefyd pum uned ddewisol.
Anelir y cymhwyster Rheoli lefel 4 at unigolion sydd â rhagor o gyfrifoldeb personol ac ymreolaeth yn eu rôl rheoli nag ar lefel 3, sydd â´r gallu a´r cyfle i arddangos sgiliau rheoli ac arwain cydnabyddedig, er enghraifft prosesau rheoli busnes, datblygu a rhoi cynlluniau gweithredol ar waith, arwain, cynllunio a gweithredu newid, rheoli cyllid, darparu cyfleoedd dysgu. Efallai y bydd unigolion yn gweld bod ffocws eu gwaith yn ymwneud mwy â rheoli prosiectau, neu faterion technegol, yn hytrach na phobl.
Er mwyn cyflawni’r dyfarniad llawn mae’n rhaid i ymgeiswyr gwblhau wyth uned yn cynnwys pum uned orfodol a thair uned ddewisol.
Fel gyda phob NVQ mae’r cymhwyster hwn wedi ei seilio ar gymhwysedd. Ystyr hyn yw ei fod wedi ei gysylltu â gallu’r ymgeisydd i gyflawni’n gymwys ystod o dasgau cysylltiedig â’u gwaith. Bydd ymgeiswyr yn cynllunio rhaglen ddatblygu ac asesu gyda’u haseswyr ac yn llunio portffolio tystiolaeth i brofi eu bod yn gymwys a gwybodus yn rôl eu gwaith.
Anelir yr NVQ hwn at ymgeiswyr sy’n rheolwyr yn y sectorau gofal a gofal cymdeithasol. Mae’n addas ar gyfer ymgeiswyr sy’n:
datblygu, cynnal a gwerthuso systemau a strwythurau er budd eraill
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi rheolwyr i ennill cymhwyster seiliedig ar gymhwysedd sy’n bodloni’r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer arfer da yn y maes hwn. Mae’n cynnwys ystod eang o sgiliau rheoli ond fe’i seilir yn glir yng nghyd-destun gwasanaethau gofal ar gyfer oedolion. Mae’r dyfarniad yn adlewyrchu maint, natur a lleoliad trefniadol amrywiol gwasanaethau oedolion a rolau gwahanol y rheolwyr. Mae’r rheolwr yn cwblhau deg uned allan o 23 uned posibl.
Anelir y cymhwyster yn bennaf at ymarferwyr profiadol sy´n gweithio´n uniongyrchol gyda chleientiaid, yn lledaenu gwybodaeth, cyngor, cyfarwyddyd ac eiriolaeth ffurfiol. Efallai y bydd gan ymgeiswyr rywfaint o gyfrifoldebau rheoli neu hyfforddi hefyd. Gallent hefyd fod yn grewyr gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd, naill ai´n dosbarthu gwybodaeth eu hunain fel ymarferwyr neu drwy eu sefydliad ar ffurf cyhoeddiadau. Disgwylir i ymgeiswyr ar y lefel hon gael perthynas fwy deinamig gyda sefydliadau eraill
Mae’n addas ar gyfer ymgeiswyr:
Mae’n cefnogi’r angen cydnabyddedig fod yn rhaid i unigolion a chyflogwyr fod yn gyfrifol am ennill y sgiliau sydd eu hangen i fodloni amcanion sydd o hyd yn newid, a fydd yn eu tro yn arwain at welliannau mewn effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar draws y sefydliad a chyda cleientiaid.
Mae arnodiad arbenigol ar gael i ymgeiswyr sy’n ceisio’r cymhwyster os cyflawnant bob un o bedair uned ddewisol o’r llwybr arbenigol Addysg Gyrfaoedd a Chyfarwyddyd.