Mae ein pecyn ´Pasbort i Ofal´ yn cynnig ateb hyfforddiant cyfan i gyflogwyr. Mae´r pecyn hwn yn addas ar gyfer gweithwyr newydd a phresennol. Rheolir a darperir yr hyfforddiant yn broffesiynol gan sicrhau y caiff pob unigolyn ei hyfforddi i´r safon briodol fel y nodir gan Gyngor Gofal Cymru a deddfwriaeth berthnasol.
Ardystir y cyrsiau a lle bo´n berthnasol cânt eu hachredu gan gyrff allanol sy´n bodloni gofynion cyrff arolygu a dyfarnu.
Mae´r pecyn unigryw hwn yn hyblyg gan ganiatáu i hyfforddiant cyflogwyr gael ei reoli ar unrhyw bwynt yn eu datblygiad proffesiynol. Cynllunnir a rheolir cymwysterau adfywio a chymwysterau ychwanegol i gyfoethogi datblygiad personol a phroffesiynol fel rhan o´r pasbort.
I gael trafodaeth anffurfiol ynglŷn â sut y gellir teilwra´r pecyn hwn i ddiwallu eich anghenion, cysylltwch â Educ8 ar 01443 865040 neu anfonwch e-bost at enquiries@educ8training.co.uk