Dysgu Cyn Prentisiaeth

Mae´r rhaglen hon wedi ei chynllunio i gefnogi unigolion gydag anghenion sgiliau sylfaenol cyn symud i brentisiaeth. Mae´r cymwysterau a ddarperir yn y rhaglen hon yn cynnwys:

  • Tystysgrif Lefelau Mynediad 1-3 mewn Rhifedd

  • Tystysgrif Lefelau Mynediad 1-3 mewn Llythrennedd

Bydd unigolion yn cael asesiad diagnostig cynhwysfawr i ganfod eu hanghenion sgiliau sylfaenol penodol.

Cynllunnir ac addasir Cynllun Dysgu Unigol (CDU) ar gyfer pob unigolyn a fydd yn addas ar gyfer eu hanghenion a´u gofynion penodol.

Wedi cwblhau´r rhaglen yn llwyddiannus gwneir asesiad sgiliau sylfaenol pellach i ganfod cynnydd a gwelliant mewn sgiliau sylfaenol.

Gall unigolion symud ymlaen i raglen prentisiaeth wedi iddynt gwblhau rhaglen PAL yn llwyddiannus.

Caiff y rhaglen hon ei darparu’n bennaf ar sail un i un gan diwtoriaid sgiliau sylfaenol cymwysedig a phrofiadol.