ReAct

A gawsoch eich gwneud yn ddi-waith yn ystod y chwe mis diwethaf? A ydych o dan rybudd diswyddo? A ydych yn byw yng Nghymru?

Efallai mai ariannu ReAct yw´r union beth sydd ei angen arnoch!

Arian yw ReAct a ddarperir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo pobl i ddysgu sgiliau newydd a dychwelyd i waith cyn gynted â phosibl

Gall ReAct dalu cyfraniad o hyd at £2080 at gostau cyflogi person cymwys. Mae cefnogaeth hefyd ar gael i ddarparu hyfforddiant, yn cynnwys hyfforddiant galwedigaethol lle mae cyfraniad o hyd at £2500 ar gael yn dibynnu ar hyd y cwrs a´i berthnasedd i´r economi.

Mae´r rhaglen ReAct yn cwmpasu Cymru gyfan ac yn gweithredu o swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Abertawe.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â ReAct a chyfleoedd cefnogaeth cysylltwch â thîm ReAct ar 01792 765888 neu e-bostiwch react.team@wales.gsi.gov.uk