Ateb Dysgu Cyfan

Mae Educ8 ar hyn o bryd yn datblygu model a fydd yn darparu ´ateb dysgu cyfan´ i´r sector gofal.

Mae cam cyntaf y model yn dechrau gyda dadansoddiad busnes cynhwysfawr, gan gysylltu strategaeth busnes gyda chynllunio adnoddau dynol ymlaen i hyfforddiant a datblygu. Mae canlyniad y dadansoddiad hwn yn rhoi dealltwriaeth drwyadl o´r busnes ac yn nodi hyfforddiant a datblygiad i fodloni amcanion a nodau busnes.

Cam nesaf y model yw rhoi´r cynllun hyfforddiant a datblygu ar waith. Bydd hyn yn cynnwys nodi cyfleoedd ariannu i fodloni´r anghenion hyn a chanfod hyfforddiant a datblygu o ansawdd uchel.

Cam olaf y broses hon yw monitro a gwerthuso parhaus ar hyfforddiant a datblygu. Mae´r ochr hon ar y broses yn hollbwysig ar gyfer monitro effeithiolrwydd ac ansawdd yr hyfforddiant a nodi anghenion datblygu pellach.