Mae Hyfforddiant Educ8 yn darparu rhaglenni hyfforddiant deinamig, arloesol a phroffesiynol y gellir eu teilwra ar gyfer pob cwsmer a/neu sefydliad unigol. Mae pob hyfforddwr, asesydd a phartner yn gwbl gymwys ac yn meddu ar wybodaeth o´r diwydiant i ddarparu hyfforddiant a datblygu o´r safon uchaf.
Rydym wedi gweld galw cynyddol am y cyrsiau a ddarparwn gan sefydliadau mewn sectorau cyhoeddus eraill a chan fusnesau yn y sector preifat hefyd. Felly rydym yn awr yn cynnig y cyrsiau hyn i sbectrwm llawer ehangach o gleientiaid.
Yn ogystal, mae ein harbenigedd mewn darparu ystod eang o gyrsiau hyfforddi wedi ein galluogi i ganfod bylchau yn y farchnad ac i ehangu´r ystod o gyrsiau a gynigir gan Educ8.
Mae llawer o´r cyrsiau hyfforddi a gynigir gan Educ8 yn orfodol mewn rhai galwedigaethau tra bod eraill, megis Cymorth Cyntaf Brys yn aml yn galw am i gyfran sylweddol o´r staff gael eu hyfforddi ynddynt. Ond mae Educ8 yn benderfynol nad yw dim ond yn eu darparu i´r safonau isaf sy’n ofynnol.
Caiff pob cwrs hyfforddiant gorfodol ei achredu gan y corff dyfarnu perthnasol gyda thystysgrif yn cael ei chyflwyno ar gwblhau´r cwrs yn llwyddiannus.
Rydym wedi datblygu calendr hyfforddi cwrs agored sy´n nodi´n glir y cyrsiau a gynhelir dros y 9 mis nesaf a disgrifiad/trosolwg o bob cwrs.
Deallwn bwysigrwydd hyfforddiant o safon a´r effaith gadarnhaol a gaiff hyn ar berfformiad unigol a pherfformiad cyffredinol busnes. Mae ein cyrsiau yn cynnig profiad dysgu o safon uchel a chânt eu cyflwyno mewn amgylchedd proffesiynol a hamddenol.
Os oes gennych anghenion hyfforddiant a datblygu na ellir eu diwallu gan un o´r cyrsiau a gynigir, cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.