Skip to content
 

Ydych chi wedi cael eich diswyddo yn ddiweddar?

Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod pryderus iawn a gall colli eich swydd fod yn straen mawr! Fodd bynnag, gall hefyd gynnig cyfleoedd newydd, fel y cyfle i ailhyfforddi neu weithio i chi’ch hun.

Oeddech chi’n gwybod bod cyllid ar gael ar gyfer hyfforddiant y gallech fod yn gymwys i’w gael? Mae ReAct+ yn gynllun sy’n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig atebion wedi’u teilwra a all gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygiad Personol i helpu i ddileu rhwystrau i gyflogaeth, fel cymorth gydag iechyd meddwl, magu hyder, sgiliau iaith a mwy.

I fod yn gymwys ar gyfer cymorth ReAct+ rhaid i chi fod yn 18+ oed ac yn byw yng Nghymru gyda hawl i fyw a gweithio yn y DU a naill ai:

O dan hysbysiad ffurfiol o ddiswyddo, wedi cael eich diswyddo neu’n ddi-waith o fewn y 12 mis diwethaf neu fod rhwng 18-24 oed a heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

 

Pa gymorth sydd ar gael drwy ReAct+?

Y newyddion da yw bod y cymorth a gewch wedi’i deilwra’n benodol i chi a’ch sefyllfa. Mae’r holl gymorth wedi’i gynllunio o amgylch eich cael i gyflogaeth yn yr amser byrraf posibl.

Gall ReAct+ gynnwys:

Hyd at £1,500 i’ch helpu i gael y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnoch – Grant Hyfforddiant Galwedigaethol

Hyd at £4,550 i helpu i dalu costau gofal plant/gofal pan fyddwch yn hyfforddi

Hyd at £500 o gymorth datblygiad personol i helpu i ddileu rhwystrau i gyflogaeth – Cymorth Datblygiad Personol

Hyd at £300 o gymorth ychwanegol tuag at gostau ychwanegol pan fyddwch yn hyfforddi, gan gynnwys teithio a llety

Os hoffech wneud cais am ReAct+ cysylltwch â’n Rheolwr Sgiliau Sam Azzopardi. Emil: Samg@isatraining.co.uk neu ffoniwch 07968985696.

 

Sgwrsiwch â ni

Skip to content