
Yr wythnos hon, i gyd-fynd â Diwrnod Shwmae Su’mae, mae Educ8 Training yn gyffrous i lansio eu Hwythnos Gymraeg – cyfle i ddathlu’r iaith, y diwylliant a’r dreftadaeth Gymraeg sy’n ein gwneud ni’n ni.
Fel cwmni balch o Gymru, rydyn ni am i bob prentis deimlo eu bod yn cael eu cefnogi drwy eu taith ddwyieithog. Dyna pam mae ein platfform i ddysgwyr, Moodle, yn cynnwys ystod eang o adnoddau sydd wedi’u cynllunio i feithrin sgiliau a hyder:
Prentis-iaith (gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) – cwrs Cymraeg pwrpasol sydd ar gael i’n holl ddysgwyr drwy Moodle. Mae ganddo 4 lefel – Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder a Rhuglder.
Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg – modiwl yn archwilio pam mae Cymraeg yn bwysig yn y gymdeithas a’r gweithle heddiw.
Fideos Cymraeg – tri adnodd byr i’ch helpu i ddysgu ymadroddion newydd fel cyfarchion a dyddiau’r wythnos.
Adnoddau dwyieithog cynhwysfawr ar gyfer Iechyd a Gofal a Gofal Plant – er nad ydynt wedi’u creu gan Educ8, mae’r rhain yn hawdd eu cyrraedd trwy Moodle ac yn rhoi cymorth ychwanegol i ddysgwyr sector-benodol.
Calendr Digwyddiadau Cymru – ar dudalen lanio Moodle gallwch archwilio’r hyn sy’n digwydd ledled Cymru fel rhan o’n ‘Dimensiwn Cymreig’.
Fel rhan o’ch prentisiaeth, gallwch hefyd ddisgwyl i’ch Anogwr Hyfforddwr ddefnyddio Cymraeg achlysurol, gan gynnwys adborth dwyieithog, i’ch helpu i fagu eich hyder.
Dywedodd ein Rheolwr Ansawdd Emma McCutcheon ‘Yn Educ8, rydym yn hynod frwd dros yr iaith Gymraeg, ac rydym yn falch o roi’r offer sydd eu hangen ar ein dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a dathlu ein diwylliant. Mae pob cam yn cyfrif – p’un a ydych chi’n dysgu eich cyfarchiad cyntaf neu’n adeiladu rhuglder.’
Mae gennym ddigonedd o bethau cyffrous i gymryd rhan ynddynt yr Wythnos Gymraeg hon, gan gynnwys sesiwn flasu hwyliog 30 munud o’r enw Cymraeg i’r Petrusgar, llawer o weithgareddau Cymraeg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Diwrnod Shwmae Su’mae, ynghyd â’n sesiwn Cymraeg dros Ginio – lle cyfeillgar i sgwrsio yn Gymraeg, p’un a ydych chi’n rhugl, yn rhydlyd neu newydd ddechrau arni!
I gael rhagor o wybodaeth am ein gweithgareddau Wythnos Gymraeg neu i ymgymryd â phrentisiaeth ddwyieithog, cysylltwch ag Emma McCutcheon: emmam@educ8training.co.uk