Skip to content

Pam Astudio Yn Gymraeg?

 

Os ydych chi’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg fe allwch chi fod o fudd i’ch gyrfa, cael opsiynau astudio hyblyg a chael cefnogaeth gyda sgiliau astudio ac iaith tra’n dod â rhan o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig i’ch gweithle.

82% o fusnesau yng Nghymru yn dweud bod defnyddio’r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at eu gwasanaethau. Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am staff i gynnig gwasanaethau dwyieithog i’w cwsmeriaid.

Mae astudio’n ddwyieithog yn eich helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o’ch dewis bwnc. Mae’n cyfoethogi eich profiad dysgu trwy gynnig persbectif Cymreig ar eich pwnc, profiadau unigryw ac amrywiol wrth ddysgu, dyrchafu eich sgiliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac yn bwysicaf oll, cadw’r Gymraeg yn fyw.

Astudiwch rywfaint neu'r cyfan o'ch cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg

Gallwch astudio rhywfaint neu’r cyfan o’ch cymhwyster yma yn Educ8. Gallwch astudio cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch, gallwn eich cefnogi pa bynnag lefel o Gymraeg sydd gennych. Nid yn unig yr ydych yn elwa o ddilyniant gyrfa wrth gwblhau eich cymhwyster yn y Gymraeg, ond rydych hefyd yn cefnogi eich gweithle gyda’r Gymraeg a’i diwylliant.

Rydym yn cynnig cwrs Prentis-Iaith sy’n cefnogi siaradwyr Cymraeg rhugl a di-rugl, bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o bwysigrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru fel sgil ar gyfer y gweithle yn y 5 uned gyntaf. Tra bod cynnwys Uned 6 wedi’i deilwra i wahanol bynciau galwedigaethol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio rhan neu’r cyfan o’ch cwrs yn Gymraeg, cysylltwch â ni a gallwn drafod eich opsiynau.

Beth yw manteision astudio yn Gymraeg?

Mae llawer o fanteision o astudio eich cymhwyster yn y Gymraeg. Mae 2 filiwn o bobl yng Nghymru yn credu y dylai busnesau gynnig gwasanaeth dwyieithog i gwsmeriaid. Mae 40% o ddisgrifiadau swydd yng Nghymru angen y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg a 71% o bobl yn cytuno bod dwyieithrwydd yn helpu wrth chwilio am swydd.

Mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos bod llawer o fanteision i fod yn ddwyieithog. Oeddech chi’n gwybod ei bod hi’n haws dysgu ieithoedd eraill, yn gwella’ch cof a’ch sgiliau gwybyddol a bod pobl sy’n ddwyieithog yn gallu canolbwyntio ar dasgau yn llawer gwell?

Roedd astudio yn Gymraeg wedi fy ngalluogi i barhau i ddefnyddio’r iaith rwy’n falch o’i siarad. Mae'n bwysig cadw'r iaith Gymraeg a'i diwylliant yn fyw. Roedd codi ychydig o eiriau Cymraeg newydd wrth ddysgu hefyd wedi cynyddu fy ngeirfa Gymraeg.

Amy Jones, Arbenigwr Sgiliau Hanfodol, Educ8 Training

Sgwrsiwch â ni

Skip to content