Skip to content
Darganfyddwch eich angerdd dros ddysgu a datblygu eich sgiliau – yn union fel Lucy!

Nod ymgyrch eleni ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru, sy’n rhedeg o Hydref 17-23, yw ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd am ddysgu a datblygu eu sgiliau.

Pobl yn union fel Lucy Williams, 40, o Dreharris, sydd wedi cael ei thrawsnewid o fod yn weithiwr ffatri di-waith heb unrhyw gymwysterau i fod yn rheolwr gofal ers 14 mlynedd, diolch i gefnogaeth Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Wythnos Addysg Oedolion yn cyfeirio cannoedd o gyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb am ddim, sesiynau blasu, digwyddiadau, diwrnodau agored ac adnoddau dysgu sydd am ddim ac yn hygyrch i bawb. Edrychwch ar https://weeklearnersweek.wales/ am fanylion llawn yr hyn sydd ar gael yn ystod mis Hydref.

Bydd oedolion yn cael cynnig cyfle i ddarganfod eu hangerdd am ddysgu, gloywi eu sgiliau, gwella eu hiechyd a lles, datblygu eu gyrfa, neu geisio cyngor ac arweiniad arbenigol i gymryd ail gyfle a newid eu stori.

Mae prentisiaethau’n cynnig y cyfuniad perffaith o enillion a dysgu, gan ganiatáu i brentisiaid barhau â’u haddysg ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol wrth weithio ochr yn ochr â staff profiadol.

Maent yn agored i bawb dros 16 oed, o bob gallu, ac mae cymorth wedi’i deilwra ar gyfer pob prentis. Ar gael ar bedair lefel, mae prentisiaeth at ddant pob dysgwr mewn 23 o sectorau.

Darganfu Lucy ei hangerdd dros ddysgu a datblygu ei sgiliau fel oedolyn. Mae hi bellach yn gweithio tuag at Brentisiaethau Uwch mewn Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli (Lefel 4) a Rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lefel 5).

Mae hi wedi dod o hyd i’w gwir alwedigaeth mewn bywyd diolch i gefnogaeth ac arweiniad y darparwr hyfforddiant Educ8 Training. Oherwydd ei hangerdd dros ddysgu, mae Lucy wedi dringo drwy’r rhengoedd i sicrhau swydd ei breuddwydion fel rheolwr gwasanaeth galwedigaethol ar gyfer Gwerthoedd mewn Gofal, ar ôl dechrau yn y sector yn 26 oed ar Brentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“ Roedd gen i ddiddordeb bob amser mewn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ond fe wnes i osgoi’r llwybr hwnnw oherwydd roeddwn i’n meddwl bod yn rhaid i chi fod yn gymwys,” esboniodd Lucy.

“Gan nad oedd yr ysgol yn fy niddordeb i mewn gwirionedd, gadewais heb unrhyw gymwysterau TGAU ac es yn syth i weithio mewn ffatri.

“Pan ddechreuais fy NVQ, roedd yn teimlo’n naturiol oherwydd roeddwn i’n dysgu rhywbeth roeddwn i’n angerddol amdano. Yn amlwg, fe’i bwriadwyd i mi gan na fyddwn yn dal i fod yma nawr.

“Mae prentisiaethau wedi fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa, gan fod yr holl wybodaeth a sgiliau rydw i wedi’u dysgu drwy astudio wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i eisiau bod o fewn y cwmni. Mae amser i ddysgu bob amser, waeth pa mor hen ydych chi.”

Mae Sandy Hale, un o aseswyr Educ8 Training, yn disgrifio Lucy fel “person pobl sydd ag empathi a sgiliau cyfathrebu da”.

“Yn y sector gofal, mae llawer o reolwyr wedi dod i fyny drwy’r rhengoedd ac maent yn aml yn gweld gofynion academaidd Prentisiaeth Uwch yn eithaf anodd,” meddai. “Nawr bod Lucy wedi cael dyrchafiad ac yn ffurfio timau newydd, mae hi’n deall perthnasedd a phwysigrwydd ehangu ei gwybodaeth a sut mae’n mynd i gynorthwyo ei gwaith.”

Bydd mwy na 10,000 o oedolion ledled Cymru yn cymryd rhan yn Wythnos Addysg Oedolion, a gydlynir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Bydd cyngor ac arweiniad arbenigol ar gael ar ailhyfforddi, cyfrifon dysgu personol, gofal plant a diswyddiadau drwy Cymru’n Gweithio. https://workingwales.gov.wales/

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

‍

A woman in a bright red blouse and a man in a black polo shirt pose together, leaning against a metal railing in a modern office building.

14th Hydref 2026

Dau apwyntiad mewnol newydd gan Educ8 i gryfhau’r uwch-arweinyddiaeth a hybu twf rhagoriaeth a tyfiant ar draws y grwp. 

A smiling florist stands behind a wooden workbench, displaying a colourful floral arrangement in front of a flower shop sign.

30th Medi 2026

Sut mae Prentisiaeth Marchnata Digidol Lefel 3 yn Helpu Un Busnes Cymreig i Ffynnu

A smiling woman in a light blue polo shirt holds a folder and documents in a colourful classroom or educational playroom.

2nd Medi 2026

Ymarfer Proffesiynol mewn Lleoliad Meithrinfa: Stori Kailey Groves

A woman presents an AI technology concept on a large digital screen to colleagues during a meeting in a modern office.

27th Awst 2026

AI a Dyfodol Gwaith: Pam Buddsoddi mewn Pobl sy’n Bwysig

Sgwrsiwch â ni

Skip to content