Skip to content
Dau apwyntiad mewnol newydd gan Educ8 i gryfhau’r uwch-arweinyddiaeth a hybu twf rhagoriaeth a tyfiant ar draws y grwp. 

Penodwyd Jude Holloway yn Brif Swyddog Gweithredol a Matt Smith fel Prif Swyddog twf. 

Caerffili, 12fed Hydref 2026 – Cyhoeddwyd dau benodiad uwch gan Educ8 o fewn y tim arweiniol presennol wrth i Jude Holloway gamu mewn i rol y Prif Swyddog Gweithredol a Matt Smith yn derbyn swydd fel Prif Swyddog Twf. Mae’r ddau apwyntiad yn rhan o strategaeth y grwp mewn datblygiad a ffocws di-ildio wedi’i ategu ar draws pob rhan o’r busnes. 

Mae’r ddau rol yn cwmpasu cylch gwaith eang drwy greu aliniad ar draws busnesau Educ8 ac yn sicrhau y bydd rhagoriaeth weithredol yn cyd rhedeg yn hytrach na chael ynysdod. 

Bydd swydd Jude fel Prif Swyddog Gweithredol yn goruchwylio gweithrediadau ar draws pob rhan o’r grwp lle bydd y focws ar welliant ym mhrofiadau byd y dysgwr a’r cyflogwr a’r systemau sydd a’r gael i hwyluso’r profiadau ‘ma, yn ogystal a chyflawni darpariaeth rhagorol a chefnogaeth. Mae gan Jude ystod eang o brofiadau fel rhan o dim Educ8, a’r rol mwyaf diweddar oedd fel Rheolwyr a Chyfarwyddwr Hyfforddiant i’r cwmni. Fel rhan o’r swydd newydd bydd hi’n darparu cynlluniau i alinio safonau a rhanu’r ffyrdd orau i drawsnewid profiadau’r dysgwyr a’r cyflogwyr a cynnig safonau gweithredu o ansawdd uchel. 

Fel Prif Swyddog Gweithredol, bydd Matt yn arwain strategaeth twf y grwp drwy nodi a chreu cyfleoedd newydd, cryfhau’r berthynas rhwng cyflogwyr a phartneriaeth, drwy ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael mewn modd effeithiol ac amserol. Bydd Matt yn chwarae rhan bwysig yn paratoi datblygiad hirdymor y cwmni, yn sicrhau twf newydd sy’n arddangos enw da’r cwmni a’r ansawdd am rhagoriaeth sydd wedi’i sefydlu ers dau ddegawd. Bu Matt yn Rheolwr-Cyfarwyddwr yn Aspire2Be mewn swydd blaenorol. 

Bwriad y ddau apwyntiad newydd yw sicrhau ymrwymiad hir dymor i ddatblygu a hyrwyddo’r dalent sy’n bodoli o fewn y gweithlu trwy gynnig parhad mewn arweinyddiaeth wrth i’r cwmni symud at y cam nesaf yn eu cyfnod twf. 

Meddai Jude Holloway, Prif Swyddog Gweithredol fel hyn: 

Mae creu safonau rhagorol yn rhan o bob agwedd o’r hyn i ni’n cynnig fel cwmni, ac mae’r rol diweddaraf yma yn sicrhau cysondeb ar draws y grwp. Edrychaf ymlaen i gyd weithio gyda’r tim ar draws y busnes er mwyn cryfhau y ffordd ni’n gweithredu a buddsoddi yn y gweithwyr i godi safonau a chynnig cefnogaeth barhaol i’n cwmnioedd a’i dysgwyr. 

Dywed Matt Smith, Prif Swyddog Twf fel hyn: 

Fi wrth fy modd i gael swydd newydd ar amser cyffroes ym mywyd y cwmni. Mae Sylfaen gadarn gyda ni eisioes wedi’i selio ar ansawdd arbennig ac mae hwn yn gyfle i gynnig tyfiant mewn ffordd bydd yn cynnig fwy o gyfleoedd i ddysgwyr, cyflogwyr ac hefyd i’r gymuned. Fy uchelgais bydd sicrhau tyfiant ar draws y grwp ond yn ogystal gwneud yn siwr fod cynhaliaeth yn rhan o’r twf heb golli’r gwasanaeth rhagorol sy’n glwm wrth enw Educ8. 

Mae Grant Santos, Prif Weithredwr Grwp Educ8, yn dweud fel hyn: 

Mae Jude a Matt eisioes wedi gwneud cyfraniad rhagorol i Educ8, ac mae’r penodiadau diweddaraf yn adlewyrchu effeithiolrwydd y ddau ohonynt. Trwy gyd weithio bydd y cydbwysedd rhwng y ddau yn creu trylwyredd gweithredol, a’r arweinyddiaeth at bennod newydd yn ein tyfiant, tra’n cadw safonau uchel wrth wraidd yr hyn ni’n cynnig. Ni’n hynod o falch ein bod wedi gallu penodi o fewn y cwmni ac mae cynnig hyrwyddiad fel hyn yn adlewyrch’r gallu a thalent sydd eisioes yn bodoli o fewn y cwmni. 

A smiling woman in a light blue polo shirt holds a folder and documents in a colourful classroom or educational playroom.

2nd Medi 2026

Ymarfer Proffesiynol mewn Lleoliad Meithrinfa: Stori Kailey Groves

A woman presents an AI technology concept on a large digital screen to colleagues during a meeting in a modern office.

27th Awst 2026

AI a Dyfodol Gwaith: Pam Buddsoddi mewn Pobl sy’n Bwysig

A trainer presenting a workshop to a group of colleagues seated around tables with laptops and notebooks in a meeting room.

25th Awst 2026

Sut mae Mon Motors yn buddsoddi yn ei bobl ac yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr tîm gyda Hyfforddiant Educ8

4th Awst 2026

Dafydd Humphreys: Symud Ymlaen Trwy Gyrsiau Arweinyddiaeth a Rheolaeth yng Nghymru

Sgwrsiwch â ni

Skip to content