Skip to content
Goresgyn Pryder Gyda Chymorth Ei Gyflogwr

Mae Matthew Angel wedi cael ei gyflogi gan y darparwr hyfforddiant Educ8 ers mis Ionawr 2017.

Dechreuodd Matthew fel Aseswr dan Hyfforddiant gan weithio tuag at gwblhau ei ddyfarniad TAQA i ddod yn Aseswr cymwys.

Treuliodd Matthew ddwy flynedd fel Aseswr cyn iddo ddechrau profi problemau gyda gorbryder ac iselder a oedd oherwydd sawl ffactor.

Cefnogwyd Matthew gan y tîm yn Educ8 yn ystod y cyfnod anodd hwn a chyda chefnogaeth lawn ei reolwr ar y pryd fe’i hanogwyd i wneud cais am rôl arall o fewn y sefydliad.

Sicrhaodd swydd fel cynorthwyydd gweinyddol o fewn y tîm gweinyddol lle bu’n gweithio am ddwy flynedd. Roedd yn rôl fwy strwythuredig, a helpodd i leddfu ei bryder. Mynychodd Matthew sesiynau hefyd gyda’r elusen MIND lle’r oedd yn gallu siarad â chynghorwyr hyfforddedig am ei bryderon.

Ar ôl dwy flynedd yn gweithio ar y tîm gweinyddol cododd swydd wag ar gyfer Recriwtiwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddai rhan fawr o’r rôl yn golygu siarad â dysgwyr a chyflogwyr, ond roedd Matthew yn meddwl ei fod yn barod ac wedi ymgeisio am y swydd.

Mae Educ8 yn cefnogi Matthew yn ei rôl newydd gyda galwadau llesiant rheolaidd ac yn asesu ei lwyth achosion i sicrhau ei fod yn hylaw iddo.

Dywedodd Katie Owen, Arweinydd Tîm Iechyd Clinigol a Gofal Cymdeithasol Educ8 a rheolwr llinell Matthew; “Rydym yn gweithio’n agos iawn fel tîm, ac mae cydweithwyr amrywiol o bob rhan o’r busnes yn darparu cymorth gyda llwythi achosion recriwtwyr er mwyn lleihau pwysau rôl gyflym.

“Mae Matthew yn ased i’r tîm ac mae’n parhau i weithio mewn ffyrdd cadarnhaol i oresgyn yr heriau sy’n ei wynebu.

“Oherwydd ei heriau iechyd meddwl ei hun mae’n ymgysylltu â staff o bob rhan o’r busnes i’w cefnogi gyda’u rhai nhw. Gall hyn fod yn unrhyw beth o sgwrs, cyfarfod am goffi neu gyfeirio staff at ein tîm cefnogi llesiant.”

Rhannodd Matthew ei stori gyda’r staff yn ystod un o’u diwrnodau llesiant ‘Gr8’. Teimlai ei bod yn bwysig dangos i bobl gyda chymorth a chefnogaeth y gallwch ddechrau delio â’ch pryder a lleddfu’r pwysau yr ydych yn ei roi arnoch eich hun.

Ni all Matthew ganmol Educ8 ddigon “Heb y cymorth a chefnogaeth gan fy rheolwyr a chydweithwyr nid wyf yn credu y byddwn yn dal i fod gyda’r sefydliad.”

“Mae gwerthoedd Educ8 wedi chwarae rhan enfawr yn fy mhenderfyniad i ddal ati a gwneud y gorau y gallaf yn fy rôl i gyfoethogi bywydau’r dysgwyr rwy’n gweithio gyda nhw.”

Mae Matthew yn cefnogi Signposted Cymru a chododd dros £2,000 y llynedd drwy feicio 10 milltir bob dydd drwy gydol mis Tachwedd.

Mae Signposted Cymru yn ymyriad cychwynnol ac uniongyrchol gydag ataliaeth gynnar i unigolion sy’n cael trafferth ac angen cymorth gyda materion iechyd meddwl a llesiant.

Mae Signposted Cymru yn cynnig cymorth a chefnogaeth ymatebol wedi’i deilwra i unigolion sy’n ymdrechu am ddyfodol mwy disglair. https://signpostedcymru.com/

Awdur: Karen Smith – NTFW.

29th Tachwedd 2023

Grŵp Hyfforddi Educ8 yn Lansio Prosiect Cymunedol a Gefnogir gan Lywodraeth y DU i Wella Sgiliau Rhifedd yng Nghastell-nedd Port Talbot

16th Tachwedd 2023

Hyfforddwr ILM Andy Davey yn cwblhau prentisiaeth mewn Cyngor ac Arweiniad

1st Tachwedd 2023

Mae Dysgu Gydol Oes mor bwysig

13th Hydref 2023

GRADDIAIS DIOLCH I FY MHRENTISIAETH

Sgwrsiwch â ni

Skip to content