Skip to content
Grŵp Educ8 ar y Rhestr Fer yng Ngwobrau Buddsoddwyr Mewn Pobl 2021

Mae Grŵp Educ8 wedi cyrraedd rhestr fer derfynol Y Wobr Dysgu a Datblygu yng Ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2021. Mewn blwyddyn sy’n torri record o ran ceisiadau, gyda bron i dri chant o sefydliadau yn cymryd rhan, mae hwn yn gyflawniad eithriadol ac yn un y mae pawb yn Educ8 yn falch ohono.

Mae Gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl yn dathlu’r sefydliadau a’r unigolion gorau o bob cwr o’r byd ar draws amrywiol gategorïau sefydliadol, pobl, lles ac arweinyddiaeth. Bob blwyddyn mae cannoedd o sefydliadau o’r DU a thramor yn brwydro i fynd ag un o’r tlysau y mae galw mawr amdano adref i ddangos eu hymrwymiad arobryn i fuddsoddi yn eu pobl.

Dywedodd Kathryn Wing, Cyfarwyddwr Ansawdd a Chydymffurfiaeth yn Educ8 Group, “Mae’n fraint bod ar restr fer y wobr hon; arwydd clir o’r ymroddiad a’r gwaith caled y mae’r tîm wedi’i fuddsoddi yn y busnes. Fel cyflogwr, rydym yn falch o’n hachrediad BmP Platinwm; pan fyddwn yn buddsoddi yn ein gweithwyr, rydym hefyd yn buddsoddi yn nyfodol ein cwmni.”

Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl:

“Nawr yn ein 8fed blwyddyn, mae bob amser yn gwneud i mi deimlo’n hynod falch o weld cymaint o sefydliadau gwych yn honni mai nhw yw’r gorau. A phob blwyddyn, mae’r cynigion yn mynd yn fwyfwy cystadleuol a’r beirniadu hyd yn oed yn dynnach. Mae cyrraedd y rhestr fer derfynol yn dyst i’r ymrwymiad anhygoel y mae’r sefydliadau hyn yn ei wneud i wneud gwaith yn well i’w pobl, ac maent yn wirioneddol haeddu’r gydnabyddiaeth hon.”

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar-lein ar 23 Tachwedd 2021.

29th Tachwedd 2023

Grŵp Hyfforddi Educ8 yn Lansio Prosiect Cymunedol a Gefnogir gan Lywodraeth y DU i Wella Sgiliau Rhifedd yng Nghastell-nedd Port Talbot

16th Tachwedd 2023

Hyfforddwr ILM Andy Davey yn cwblhau prentisiaeth mewn Cyngor ac Arweiniad

1st Tachwedd 2023

Mae Dysgu Gydol Oes mor bwysig

13th Hydref 2023

GRADDIAIS DIOLCH I FY MHRENTISIAETH

Sgwrsiwch â ni

Skip to content