Skip to content
IoD ac Educ8 yn cyhoeddi partneriaeth

Mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) wedi cyhoeddi partneriaeth â Grŵp Educ8 i ysbrydoli, uwchsgilio a datblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes yng Nghymru.

Wedi’i sefydlu yn 2004 gan y Cadeirydd Colin Tucker, mae Educ8 yn darparu Rhaglenni Prentisiaeth mewn ystod o sectorau ar gyfer sylfaen cwsmeriaid o ddysgwyr a chyflogwyr, gan gynnwys Cymwysterau’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) ar gyfer arweinwyr a rheolwyr y dyfodol. Y cwmni preifat yw’r Cwmni Canolig Gorau i Weithio iddo yn y DU ac mae’n cael ei gydnabod fel darparwr hyfforddiant Arweinyddiaeth a Rheolaeth mwyaf blaenllaw Cymru.

O ganlyniad i bartneriaeth IoD bydd yr holl reolwyr sy’n cofrestru ar Lefel 5 Rheolaeth ILM gyda Grŵp Educ8 yn elwa o Aelodaeth Gyswllt gyda’r IoD; sefydlu taith o ddatblygiad proffesiynol a fydd yn cefnogi arweinwyr y dyfodol, penderfynwyr a dylanwadwyr gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.

Dywedodd Grant Santos, Prif Weithredwr Educ8: “Er mwyn i Gymru a’i busnesau ffynnu, mae’n hanfodol bod gan weithwyr a’u rheolwyr y sgiliau a’r galluoedd cywir i addasu a chyflawni mewn cyfnod heriol. Dylai hyn fod yn rhan greiddiol o unrhyw strategaeth pobl, nawr yn fwy nag erioed.

“Mae buddsoddi mewn pobl yn hollbwysig er mwyn i ni allu adeiladu’n ôl yn well. Yn fyd-eang, sgiliau arwain a rheoli yw’r rhai y mae’r galw mwyaf amdanynt, sy’n atgyfnerthu’r angen dybryd i arfogi ein rheolwyr yng Nghymru, fel arweinwyr y dyfodol, â’r arfau sydd eu hangen arnynt i gystadlu ar lwyfan rhyngwladol. Drwy wneud hynny gallwn sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru heddiw a thu hwnt.

Parhaodd Ann Nicholas, Cyfarwyddwr Cyfrifon Cwsmer Grŵp Educ8: “Yr IoD yw’r unig sefydliad yn y byd i gynnig cymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd wedi’u dylunio gan gyfarwyddwyr, ar gyfer cyfarwyddwyr o dan Siarter Frenhinol. Fel aelod cyswllt o’r IoD fy hun, mae’n bleser gennyf ymestyn y cyfle i’n dysgwyr Educ8 a fydd yn elwa’n broffesiynol o ddysgu dyrchafedig, cyfleoedd datblygiad proffesiynol yn ogystal â mynediad at brofiad rhyfeddol aelodaeth amrywiol yr IoD. Mae’n gyfle cyffrous iawn sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddatblygu talent wych er budd busnesau, cymunedau a Chymru gyfan.”

Dywedodd Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr yr IoD yng Nghymru: “Mae’n rhaid i ni gamu i fyny, nid camu’n ôl. Mae hynny’n golygu creu partneriaethau a ffyrdd newydd o weithio drwy gysylltu, datblygu a dylanwadu. Mae gan Grŵp Educ8 hanes heb ei ail o ddarparu rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel, Prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith i gyflogwyr o bob maint, o ficro-sefydliadau, hyd at BBaChau a chorfforaethau rhyngwladol byd-eang.

“Rydym yn rhannu gwerthoedd tebyg ac ethos sy’n canolbwyntio’n fawr ar ddatblygiad proffesiynol parhaus. Ar wahân a gyda’n gilydd, mae’r ddau ohonom yn gwneud ein rhan i adeiladu cymuned gref o arweinwyr busnes sydd â mynediad at ddatblygiad personol a phroffesiynol a chymwysterau o ansawdd uchel, gan gynnwys ein rhaglenni datblygiad proffesiynol o fri rhyngwladol, o Dystysgrif mewn Cyfeiriad Cwmni hyd at statws Cyfarwyddwr Siartredig. Dyma ddechrau taith; un a fydd yn datblygu sgiliau, yn adeiladu gwybodaeth ac yn rhannu arbenigedd er budd ein busnesau a’r rhai sy’n eu harwain.”

29th Tachwedd 2023

Grŵp Hyfforddi Educ8 yn Lansio Prosiect Cymunedol a Gefnogir gan Lywodraeth y DU i Wella Sgiliau Rhifedd yng Nghastell-nedd Port Talbot

16th Tachwedd 2023

Hyfforddwr ILM Andy Davey yn cwblhau prentisiaeth mewn Cyngor ac Arweiniad

1st Tachwedd 2023

Mae Dysgu Gydol Oes mor bwysig

13th Hydref 2023

GRADDIAIS DIOLCH I FY MHRENTISIAETH

Sgwrsiwch â ni

Skip to content