Skip to content
Nid Prifysgol yw’r Unig Opsiwn

Mae Eleri Page yn Brentis Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnes yn Bwthyn yng Nghaerffili. Mae’n dweud wrthym wrth adael yr ysgol ei bod yn gwybod nad oedd y brifysgol yn iawn iddi. Ond, roedd yn ymddangos nad oedd opsiwn arall, nes iddi ddarganfod prentisiaethau.

Cefais wahoddiad i gyfweliad

Rwy’n byw yng Nghaerffili a sylwais ar siop newydd yng nghanol y dref. Nes i bicio i mewn i holi am swyddi gweigion a chwrdd â Ruth ac Alan, perchnogion Bwthyn. Roeddent yn chwilio am brentis cyfryngau cymdeithasol a chefais wahoddiad am gyfweliad. Er fy mod wedi baglu ar y brentisiaeth, dyna oedd y dewis iawn i mi.

Ar ôl cwblhau Lefel A doeddwn i ddim eisiau mynd i’r brifysgol

Rwyf wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar ar ôl cwblhau fy Lefel A yn y Cyfryngau, Celf a Lletygarwch. Roeddwn yn ansicr beth i’w wneud nesaf ac yn gwybod nad oedd y brifysgol yn addas i mi. Byddai dewis astudio unrhyw gwrs yn y brifysgol, er nad oeddwn yn gwybod mewn gwirionedd beth roeddwn i eisiau ei wneud wedi bod yn benderfyniad gwael.

Doeddwn i ddim yn ymwybodol o brentisiaethau yn yr ysgol – roedd yn ymddangos mai prifysgol oedd fy unig opsiwn. Doeddwn i ddim eisiau gwario arian ar gwrs prifysgol nad oeddwn 100% yn siŵr amdano, felly penderfynais gymryd ychydig fisoedd allan nes i mi ddod o hyd i’r llwybr iawn i mi.

Roeddwn i eisiau gweithio ac ennill cyflog. Rwy’n mwynhau dysgu yn y swydd ac mae’n well gennyf gael asesiadau ymarferol dros arholiadau a thraethodau.

Mae’n teimlo fel teulu

Rwy’n caru cyfryngau cymdeithasol ac mae gennyf fy nghyfrifon personol fy hun. Mae gweithio fel prentis cyfryngau cymdeithasol yn berffaith i mi – rwy’n ei fwynhau gymaint, nid yw’n teimlo fel gwaith. Mae pobl ifanc yn naturiol ar gyfryngau cymdeithasol felly byddwn yn annog mwy o fusnesau i ystyried prentis.

Ers dechrau yn Bwthyn dwi’n rheoli pob cyfrif cyfryngau cymdeithasol. Mae gennym ni Facebook, Instagram ac rydw i wedi sefydlu Tik Tok yn ddiweddar. Rwyf hyd yn oed wedi dechrau cwrs ffotograffiaeth. Rydyn ni’n bwriadu defnyddio’r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i dyfu’r busnes a chyrraedd mwy o gwsmeriaid.

Mae’n teimlo fel teulu yn y Bwthyn yn barod. Mae ganddyn nhw gynlluniau cyffrous iawn ar gyfer y busnes, i agor mwy o ganghennau a chyflogi mwy o staff.

Dylai pobl ifanc ystyried prentisiaeth

Nid oes digon o ymwybyddiaeth am brentisiaethau i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol. Mae fy mhrentisiaeth wedi helpu fy hyder gymaint yn barod. Fy nghyngor i bobl ifanc fyddai – os ydych chi eisiau ennill cyflog wrth ddysgu, efallai mai prentisiaeth yw’r hyn sydd ei angen arnoch chi. Byddwn yn argymell mwy o bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol i ystyried prentisiaeth.

Dysgwch fwy am ein prentisiaethau yn y Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnes.

8th Chwefror 2024

Taith Awyr Uchel: Dal i Fyny â Phrentisiaid Sky, Flwyddyn yn Ddiweddarach

5th Chwefror 2024

Llwybr at Lwyddiant: Datblygu Gyrfa gyda Phrentisiaethau

14th Rhagfyr 2023

Grŵp Hyfforddi Educ8 yn Lansio Prosiect Cymunedol a Gefnogir gan Lywodraeth y DU i Wella Sgiliau Rhifedd yng Nghastell-nedd Port Talbot

5th Rhagfyr 2023

Hyfforddiant Educ8 yn ennill gwobr ‘Twf Dan Arweiniad Pobl’ yn Fast 50 Cymru

Sgwrsiwch â ni

Skip to content