Skip to content
Prentis Marchnata Digidol yn Cefnogi Twf Busnes.

Dewch i gwrdd ag AnyaO’Callaghan, ein dysgwr Marchnata Digidol Lefel 3. Mae Anya yn dweud wrthym sut mae astudio cymhwyster marchnata digidol wedi ei helpu i dyfu busnes ei chyflogwr.

Busnes sy’n canolbwyntio ar y cwsmer

Mae fy rôl yn golygu fy mod yn goruchwylio datblygiad o fewn y busnes a marchnata. Rwy’n rheoli’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ein cynnwys digidol a’n presenoldeb ar-lein. Rwyf hefyd yn goruchwylio ein holl nwyddau mewnol ac arddangosfeydd gweledol.

 

Mae rheolwyr yn credu mewn datblygiad staff

Mae’r tîm rheoli yn credu’n gryf mewn cefnogi addysg, hyfforddiant a datblygiad staff yn y gweithle. Mae llawer o’r staff yn astudio prentisiaethau a mathau eraill o gymwysterau. Roeddwn wedi cael cynnig astudio’r cymhwyster marchnata digidol lefel 3 a phenderfynais fynd amdani.

 

Mwy o bobl yn dod yn gysylltiedig yn ddigidol

Gyda mwy o bobl yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn dod yn gysylltiedig yn ddigidol mae’n bwysig i ni fel busnes gyrraedd ein cwsmeriaid presennol a newydd. Mae angen i ni hefyd aros yn gystadleuol mewn diwydiant sy’n tyfu lle mae cwsmeriaid yn gweld gwerth hunan-fuddsoddiad.

Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook ac Instagram wedi dod yn brif offeryn i gwsmeriaid gysylltu â ni ac i ni hyrwyddo ein busnes ac arddangos ein gwaith.

 

Mae’r cwrs yn amrywiol

Mae’r busnes wedi defnyddio cwmnïau marchnata allanol i gefnogi gyda rhywfaint o’n gweithgarwch marchnata. Gan fod y cwrs mor amrywiol, rwyf wedi gallu dod â rhai elfennau o’r gwaith hwn yn fewnol. Rwyf wedi dysgu sut i ddefnyddio gwahanol becynnau meddalwedd i gefnogi ein gwefan a chreu templedi brand ar gyfer ein cynnwys cyfryngau cymdeithasol.

 

Rwyf wedi cynhyrchu mwy o werthiannau trwy ein gwefan

Mae gallu dod â sgiliau a syniadau newydd i mewn yn werth chweil. Yn ddiweddar, cwblheais fodiwl ar Optimeiddio Peiriannau Chwilio (graddfeydd SEO). Rwyf wedi gallu cymhwyso hyn i’r busnes a gwella ein graddfeydd SEO ar google. O ganlyniad rydym wedi gweld mwy o werthiannau yn cael eu cynhyrchu trwy ein gwefan.

Darganfod mwy am gymhwyster Marchnata Digidol.

29th Tachwedd 2023

Grŵp Hyfforddi Educ8 yn Lansio Prosiect Cymunedol a Gefnogir gan Lywodraeth y DU i Wella Sgiliau Rhifedd yng Nghastell-nedd Port Talbot

16th Tachwedd 2023

Hyfforddwr ILM Andy Davey yn cwblhau prentisiaeth mewn Cyngor ac Arweiniad

1st Tachwedd 2023

Mae Dysgu Gydol Oes mor bwysig

13th Hydref 2023

GRADDIAIS DIOLCH I FY MHRENTISIAETH

Sgwrsiwch â ni

Skip to content