Skip to content
Rhyanne Rowlands yn cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021

Mae dwy Brentisiaeth Uwch wedi helpu Rhyanne Rowlands i ddatblygu yn ei rôl gyda Chymorth i Fenywod RhCT o fod yn wirfoddolwr i fod yn swyddog llawn amser yn arwain prosiectau arobryn i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig.

Yn ddioddefwr cam-drin domestig ei hun yn gynharach yn ei bywyd, mae Rhyanne, 38, o Aberdâr, bellach yn swyddog datblygu Rhondda Ddiogelach.

Ar ôl gwirfoddoli am flwyddyn i ddechrau, cafodd swydd amser llawn gyda Chymorth i Fenywod RhCT yn 2016 a dychwelodd i ddysgu gyda’r darparwr Educ8 i wella ei gwybodaeth a’i hunanhyder.

Mae Rhyanne wedi cyflawni Prentisiaethau Uwch Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad ac Arwain a Rheoli ac wedi cymhwyso fel arbenigwr cam-drin domestig. Mae hi bellach wedi symud ymlaen i Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar Lefel 5.

I gydnabod taith ddysgu lwyddiannus Rhyanne, mae hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Bydd y dathliad blynyddol hwn o gyflawniad rhagorol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yn gweld 35 o gystadleuwyr y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 17 Mehefin.

Yn uchafbwynt y calendr dysgu seiliedig ar waith, mae’r gwobrau’n arddangos busnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Mae Rhyanne yn datblygu prosiectau newydd yn ardal Rhondda Cynon Taf i ddarparu gwasanaethau cam-drin domestig i ddynion a merched. Gan ddefnyddio sgiliau a enillwyd o’i Phrentisiaethau, mae hi wedi creu a gweithredu’r prosiect Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod cyntaf yng Nghymru i gynyddu a gwella gwasanaethau cymorth i oedolion yr effeithir arnynt gan drawma plentyndod.

Sefydlodd a rhedodd Rhyanne brosiect Athena hefyd i gefnogi menywod dros 50 oed i oresgyn rhwystrau hunanhyder ac ynysu a achosir gan gam-drin domestig. Enillodd y prosiect Wobr Tlws Grisial Cwm Taf yn 2018.

“Ar ôl rhwystrau yn gynnar mewn bywyd, roeddwn i eisiau datblygu a phrentisiaethau oedd y llwyfan i wneud hynny,” meddai. “Mae wedi bod yn anhygoel datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol, sydd wedi gwella fy hyder yn fawr i ymgymryd â rolau a thasgau newydd yn fy swydd.

“Hoffwn eirioli, ni waeth beth yw eich cefndir a beth bynnag yw eich rhwystrau, gallwch chi gyflawni o hyd.”

Mae Charlie Arthur, prif weithredwr Cymorth i Fenywod RhCT, yn disgrifio Rhyanne fel “ased sylweddol” sy’n defnyddio ei sgiliau a’i gwybodaeth i wella gwasanaethau a chyfrannu at gynlluniau strategol a syniadau am brosiectau, gan sicrhau bob amser bod cleientiaid yn parhau i fod wrth wraidd unrhyw ddatblygiadau.

29th Tachwedd 2023

Grŵp Hyfforddi Educ8 yn Lansio Prosiect Cymunedol a Gefnogir gan Lywodraeth y DU i Wella Sgiliau Rhifedd yng Nghastell-nedd Port Talbot

16th Tachwedd 2023

Hyfforddwr ILM Andy Davey yn cwblhau prentisiaeth mewn Cyngor ac Arweiniad

1st Tachwedd 2023

Mae Dysgu Gydol Oes mor bwysig

13th Hydref 2023

GRADDIAIS DIOLCH I FY MHRENTISIAETH

Sgwrsiwch â ni

Skip to content