Skip to content

Beth i'w ddisgwyl o'n cymwysterau ILM

Astudiwch o bell o amgylch amserlenni gwaith prysur ac ymrwymiadau teuluol ar amser sy’n gyfleus i chi. Gyda phrofiad dysgwr hyblyg, byddwch yn astudio trwy ein platfformau ar-lein – Smart Assessor a Moodle. Mae deunyddiau ar ein Parth Dysgu ILM yn cael eu creu gan Ysgol Fusnes Harvard, rhai o’r goreuon yn y byd.

Byddwch yn cael digon o gefnogaeth. Mae ein haseswyr cymwys yn dod â chyfoeth o brofiad i’w rannu gyda chi. Byddwch yn priodieet gyda hwynt yn fisol, ar sail un i un.

Mae gan ein rhaglenni ILM strwythuredig enw rhagorol, gydag aelodau staff hirsefydlog a thîm ILM sefydledig. Yn eich blwyddyn gyntaf o astudio, mwynhewch aelodaeth myfyrwyr am ddim i ILM. Mae ein dysgwyr Lefel 5 hyd yn oed yn elwa o aelodaeth IOD unigryw.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu yn ystod eich cwrs Rheolaeth

Astudiwch ein cymwysterau busnes a dewiswch o ystod o unedau gorfodol a dewisol. Bydd y pynciau’n amrywio o ddeall y rôl reoli, i sut i reoli perfformiad tîm ac unigol.

Dysgwch sut i ddatblygu perthnasoedd gwaith a sut i annog cydweithio a dysgu a datblygu. Yn bwysig, byddwch yn darganfod egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, pwysigrwydd annog arloesedd a hyd yn oed sut i reoli gwrthdaro.

Fel rheolwr, bydd disgwyl i chi reoli cyllideb a chyfrannu at berfformiad busnes. Yn hollbwysig, byddwch yn darganfod dulliau a thechnegau arwain newydd, gan eich galluogi i dyfu a dod yn rheolwr gorau y gallwch fod.

Cyrsiau arweinyddiaeth o lefelau 2 i 5

Os ydych chi’n arweinydd tîm newydd ac eisiau datblygu fel rheolwr, astudiwch ILM Lefel 2 Arwain Tîm. Dysgwch sut i weithredu’r sgiliau craidd sydd eu hangen mewn amgylchedd busnes. Mae Rheolaeth Lefel 3 ILM yn berffaith os ydych chi’n cymryd eich cam cyntaf i fod yn rheolwr llinell.

Mae Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 4 ar gyfer y rhai sy’n symud i reolaeth ganol. Datblygu’r sgiliau i ymgymryd â chyfrifoldebau lefel uwch, fel cynllunio a gweithredu newid. Astudiwch bedair uned orfodol ac ymchwilio i’r ddamcaniaeth sut i ysbrydoli ac ymgysylltu â phobl. Dysgwch sut i roi cynllun gweithredol ar waith a datblygu eich perthnasoedd gwaith â rhanddeiliaid allweddol.

Mae ILM Lefel 5 ar gyfer rheolwyr canol sy’n gyfrifol am raglenni ac adnoddau sylweddol. Datblygu sgiliau cynllunio strategol, newid a dylunio prosesau busnes. Dysgu sgiliau arwain a rheoli craidd a sut i ysbrydoli cydweithwyr a sicrhau canlyniadau.

ILM Lefel 2 Arwain Tîm

12 Mis

Mae ein cymhwyster Lefel 2 yn ddelfrydol os ydych yn arweinydd tîm newydd ac eisiau datblygu fel rheolwr. Byddwch yn cael y cyfle i ddysgu a gweithredu'r sgiliau craidd sydd eu hangen mewn amgylchedd busnes.

Lefel 2

12 Mis

ESQ

Lefel 2

ILM Lefel 3 Rheolaeth

15 Mis

Mae astudio ein cymhwyster cyfunol Lefel 3 seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd yn berffaith os ydych yn cymryd eich cam cyntaf i fod yn rheolwr llinell neu os oes gennych rai cyfrifoldebau eisoes.

Lefel 3

15 Mis

ESQ

Lefel 2

ILM Lefel 4 Rheolaeth

14 Mis

Mae Lefel 4 yn addas ar gyfer y rhai sy'n symud i reolaeth ganol. Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am brosesau gweithredol ond byddwch yn cael eich tynnu oddi wrth eich rheolwyr llinell o ddydd i ddydd.

Lefel 4

14 Mis

ESQ

Lefel 2

ILM Lefel 5 Rheolaeth

18 Mis

Mae Lefel 5 wedi’i anelu at reolwyr canol sy’n gyfrifol am raglenni ac adnoddau sylweddol, mae ein cymhwyster yn datblygu sgiliau mewn cynllunio strategol, newid a dylunio prosesau busnes.

Lefel 5

18 Mis

ESQ

Lefel 2

" Rwy’n gredwr mawr bod dysgu yn cael effaith gadarnhaol ar eich lles. Roeddwn i eisiau cymhwyster a fyddai'n fy helpu i dyfu fel person. "

Sean Molino, Prentis ILM, Forces Fitness

Beth sy'n digwydd ar ôl eich prentisiaeth ILM

Rydym yn credu mewn dysgu gydol oes . Ni waeth ble rydych chi yn eich gyrfa , mae mwy i’w ddysgu bob amser. Wrth i chi weithio trwy eich gyrfa reoli, ewch ymlaen trwy lefelau 2 i 5.

Ar ôl cwblhau Lefel 5 , efallai y bydd cyfleoedd i astudio ar lefel uwch hyd yn oed . Rydym yn cynnig cymwysterau mewn llawer o wahanol feysydd, o ofal plant, busnes a marchnata i gyngor ac arweiniad, gweinyddiaeth busnes a gwasanaeth cwsmeriaid.

Ar ôl cwblhau bydd gennych gymhwyster City and Guilds achrededig ac yn cael eich gwahodd i’n digwyddiad blynyddol Seremoni Raddio, Gradu8. Yn cael ei chynnal yn flynyddol, byddwch yn cael graddio mewn cap a gŵn o flaen teulu a ffrindiau.

Prentisiaethau Arwain a Rheoli yng Nghymru Cwestiynau Cyffredin

Pam astudio cwrs Arweinyddiaeth?

Bydd gwella eich sgiliau arwain a rheoli yn golygu y gallwch ddeall sut i gael y gorau o’ch tîm. Mae cymwysterau ILM yn boblogaidd iawn gyda’r rhai sy’n rheoli ar hyn o bryd a’r rhai sy’n dymuno dod yn rheolwyr un diwrnod.

Sut mae prentisiaeth mewn Rheolaeth yn gweithio?

Mae rhan fwyaf y dysgwyr sy’n astudio arweinyddiaeth a rheolaeth mewn swydd ar hyn o bryd ac eisiau dysgu medrau newydd. Byddant yn aros yn yr un rôl ac ar yr un cyflog ac yn astudio’r cwrs gyda ni. Byddant yn ennill cymhwyster achrededig ac yn dysgu sut i reoli eu timau yn well. Bydd y dysgwr yn cyfarfod â’i hyfforddwr hyfforddwr unwaith y mis i symud ymlaen trwy’r cymhwyster.

Pam mae Educ8 yn darparu un o'r cyrsiau Rheolaeth gorau yng Nghymru?

Mae gan Educ8 enw heb ei ail am gyrsiau hyfforddi o safon. Mae’r cymorth rydym yn ei gynnig i gyflogwyr a dysgwyr yn un o’r rhesymau pam fod cymaint o fusnesau Cymreig yn hyfforddi eu staff trwom ni. Rydym hefyd yn cynnig ILM o lefelau 2 i 5 sy’n golygu bod yna gwrs sy’n addas i bawb – o’r rhai sydd wedi datblygu yn eu gyrfa i’r rhai sy’n dyheu am fod yn rheolwyr.

Dysgwr ydw i

Dechreuwch eich gyrfa a gwnewch gais am brentisiaeth neu uwch sgil yn eich rôl bresennol i symud eich gyrfa yn ei blaen.

Rwy'n gyflogwr

Mae angen i fusnesau dyfu. Dysgwch sgiliau newydd trwy ein prentisiaethau a ariennir yn llawn.

Rwy'n rhiant

Mae gennym lawer o brentisiaethau gwag. Bydd eich plentyn yn ennill cyflog tra'n astudio cymhwyster.

Skip to content