Skip to content
Dathlu Ein Cyfarwyddwyr Ysbrydoledig

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod rydym yn cydnabod llwyddiannau eithriadol ein tair cyfarwyddwr benywaidd.

 

Kathryn Wing, Jude Holloway ac AnnNicholas sy’n arwain o’r blaen. Rheoli’r busnes yn seiliedig ar ethos cryf o werthoedd, gan roi staff wrth galon y cwmni.

 

Gan eistedd ar fwrdd o chwe chyfarwyddwr, gyda’i gilydd maent wedi gyrru’r busnes i ennill clod ysbrydoledig gan gynnwys y Cwmni Canolig Gorau i Weithio ar Gyfer 2021, Darparwr Addysg a Hyfforddiant Gorau i Weithio ar gyfer 2021, Fast Growth 50, Cyflogwr y Flwyddyn FSB a IIP Platinwm .

 

Gan weithio ar y cyd â’i gilydd mae ein cyfarwyddwyr yn rhannu syniadau, yn cefnogi heriau a llwyddiannau ei gilydd ac yn alinio eu nodau i sicrhau eu bod yn cefnogi ei gilydd i dyfu, gwella a chyrraedd cerrig milltir personol neu broffesiynol.

 

Mae gan Ann Nicholas, Cyfarwyddwr Cyfrifon Cwsmeriaid dros 16 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant ac addysg. Yn llysgennad dros ddysgu gydol oes, mae hi’n angerddol am brentisiaethau ac ansawdd yr addysgu a’r dysgu. Mae hi’n credu bod safonau uchel o ddysgu yn arf anhepgor ar gyfer pob gyrfa a sefydliad.

 

Fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau, mae gan Jude Holloway gyfrifoldeb llawn am gyflwyno darpariaeth prentisiaeth. Gyda llwyddiant wedi’i greu dros nifer o flynyddoedd yn y sector addysg, mae Jude wedi gweithio gyda llawer o golegau AB a darparwyr hyfforddiant. Yn ei rôl flaenorol, cyflawnodd a chynhaliodd Radd 1 Ofsted am dros wyth mlynedd. Yn eiriolwr cryf mewn dysgu gydol oes, mae Jude yn astudio MBA mewn arweinyddiaeth strategol.

 

Mae’r Cyfarwyddwr Ansawdd a Chydymffurfiaeth Kathyrn Wing yn rheoli cylch ansawdd cadarn a blaengar. Yn ei gyrfa gynnar roedd yn rhedeg ei busnes ei hun, gan roi’r sgiliau arwain a rheoli iddi ddod yn asesydd. Yn hynod angerddol am ddysgu seiliedig ar waith, mae hi’n credu’n gryf bod hyfforddeiaethau a phrentisiaethau’n cynnig dewis amgen i addysg bellach ac uwch i bobl ifanc.

 

      

Astudiwch brentisiaeth gyda ni.

 

   

  src=

9th Chwefror 2024

Hyrwyddo Gyrfaoedd yn y Sector Gofal Plant Trwy Brentisiaethau

8th Chwefror 2024

Taith Awyr Uchel: Dal i Fyny â Phrentisiaid Sky, Flwyddyn yn Ddiweddarach

5th Chwefror 2024

Llwybr at Lwyddiant: Datblygu Gyrfa gyda Phrentisiaethau

16th Ionawr 2024

Mae Grŵp Hyfforddiant Educ8 yn eiriol dros brentisiaethau yn wyneb toriadau posibl yn y gyllideb

Sgwrsiwch â ni

Skip to content